Cysylltiadau rhwng Cymru ac
Iwerddon
Tystiolaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’r Llyfrgell yn diolchgar am y cyfle i gael cyfrannu tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Fel sefydliad diwylliannol sy’n gyfrifol am gasglu a deunydd Cymreig a Cheltaidd mae nifer o enghreifftiau ble mae Llyfrgell wedi cydweithio ac yn parhau i gydweithio gyda sefydliadau a mudiadau yn Iwerddon.
Adnau Cyfreithiol
Yn ei rôl fel unig Lyfrgell Adnau Cyfreithiol Cymru mae’r Llyfrgell yn cydweithio agos gyda Coleg y Drindod, Dulyn ar gasglu a phrosesu deunydd Adnau Cyfreithiol y Deyrnas Unedig (DU) ac Iwerddon. Mae’r deunydd hyn yn cynnwys cyhoeddiadau print (llyfrau, papurau newydd) a digidol (gwefannau, e-lyfrau). Mae ddeddfwriaeth Legal Deposit Libraries Act 2003 a’r Legal Deposit Libraries (Non-Print Works) Regulations 2013 yn caniatau i’r Llyfrgell Genedlaethol ynghyd â llyfrgelloedd adnau cyfreithiol eraill y DU ac Iwerddon (Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn). Mae’r cydweithio hwn yn fodd i rannu arbenigedd ac i feithrin perthnas agos gyda Llyfrgelloedd fel Coleg y Drindod, Dulyn. Oherwydd newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth yn Iwerddon mae derbyn eitemau o’r Iwerddon yn fwy heriol. Nid yw’r newidiadau hyn o ganlyniad i Brexit. O ran effaith uniongyrchol Brexit ar Adnau Cyfreithiol, gan fod eitemau o’r Iwerddon yn croesi’r ffin fe fu i Brexit ychwanegu at gost casglu eitemau gan fod cost a gwaith papur ychwanegol er mwyn sicrhau fod cyhoeddiadau print yn gallu cyrraedd y DU.
Casgliadau a’r Potensial ar gyfer Cydweithio
Fel y mae Cynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru (2021-2025) yn cydnabod mae ‘Diwylliant, iaith a threftadaeth’ yn ardal cydweithio sy’n cynnig nifer o gyfleon. Yn aml, mae casgliadau unigryw yn cynnig cyfleon i rannu a llunio prosiectau sy’n gwella cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Er enghraifft, mae casgliad o lawysgrifau Gwyddelig wedi ei ddefnyddio fel ceisiadau ar gyfer prosiectau ac ymchwil uwchraddedig. Mae prosiect diweddar y Llyfrgell i sefydlu Archif Gerddorol yn golygu fod perthynas ddiddorol gyda cerddoriaeth draddodiadol Iwerddon â’r Taisce Cheol Duchais Eireann (Irish Tradtitional Music Archive). Fel y byddech yn tybio, mae llu o cysylltiadau gydag Iwerddon ar draws y Casgliadau Cenedlaethol o archifau ystadau i archifau gwleidyddol yn ogystal a cysylltiadau llenyddol a diwylliannol eraill. Mae archifau’r International Celtic Congress hefyd ar gadw yn y Llyfrgell yn Aberystwyth. O ran datblygu cysylltiadau seneddol rhwng y Senedd a’r Oireachtas, fel sefydliad sy’n derbyn ac yn gofalu am archifau Senedd Cymru mae cyfle yma i edrych ar brosiectau ymchwil mewn perthynas ag archifau’r ddau sefydliad.
Gweithgareddau Eraill
Mae’r staff y Llyfrgell yn cefnogi nifer o brosiectau. Bu coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle i feithrin cysylltiadau ag Iwerddon gyda nifer o weithgareddau yn ffocysu ar y Cysylltiad rhwng Iwerddon a Fron-Goch ger y Bala ble y carcharwyd 1,800 o Wyddelod mewn gwersyll carcharorion yn 1916. Un enghraifft gyfredol arall yw prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (Coastal Uplands: Heritage and Tourism (cuphat.aber.ac.uk/). Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a University College Dublin i casglu gwybodaeth am ardaloedd a fydd yn arddangos treftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd ucheldirol arfordirol yn Iwerddon a Chymru i gynyddu mathau cynaliadwy o dwristiaeth ynddynt, gan arwain felly at greu bywoliaeth, cymunedau ac amgylcheddau mwy cynaliadwy. Mae’r Llyfrgell wedi bod yn cefnogi’r gwaith hwn trwy gynnal sesiynau sy’n galluogi cymunedau i gasglu gwybodaeth am yr ardaloedd dan sylw a’i llwytho i Wikipedia. O ran gwaith Wikipedia’n ehanach mae’r Llyfrgell yn cyfrannu hefyd at grwp Wici Celtaidd sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi datblygiad deunydd celtaidd ar y platfform Wiki. Yn y maes diwylliannol hefyd mae cyfleon i rannu arbengiedd ym maesydd fel rheoli data, rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi economi sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae ein cysylltiadau gyda sefydliadau fel y Digital Repository of Ireland (DRI) yn cynnig cyfleon pwysig i ddysgu a chydweithio yn y maes hwn.
Datblygiadau Pellach
Mae Iwerddon yn cael ei nodi fel un o’r blaenoriaethau yn Strategaeth Ryngwladol y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn Ionawr 2020. Yn ogystal, mae’r Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru (2021-2025) yn rhoi mwy o bwyslais ar natur y cysylltiadau y mae’r Llywodraeth am eu gweld yn datblygu. Bydd y Llyfrgell yn datblygu Strategaeth Ryngwladol newydd yn ystod y flwyddyn nesaf ac felly mae cyfle i ystyried lle cysylltiadau a’r Iwerddon yn strategaeth honno.
15-03-2023
DIWEDD